Ymgysylltu ag Ysgolion
Mae Rhaglen STEM DVLA yn cydweithio ag ysgolion, colegau a sefydliadau addysgol ledled Cymru i helpu pobl ifanc i ddarganfod y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.
Cynorthwyo ysgolion, colegau a phrifysgolion
Rydym yn cynnig ystod hyblyg o gyfleoedd ymgysylltu sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion eich myfyrwyr, eich staff a chymuned ehangach yr ysgol.
Rydym yn cydweithio ag ysgolion ledled Cymru i:
- Ysbrydoli dewisiadau gyrfa yn y dyfodol
- Datblygu sgiliau digidol
- Cefnogi dysgu am bynciau STEM
- Codi dyheadau
- Cynnig profiadau o'r byd go iawn


Gall ein gweithwyr proffesiynol digidol gynnig sesiynau deniadol sy'n ymdrin â:
- Gyrfaoedd mewn gwasanaethau technoleg ddigidol
- Diwrnod ym mywyd
- Llwybrau gyrfa
- Delfrydau ymddwyn a chyn-fyfyrwyr
- Gweithdai codio a sgiliau digidol
Pa un ai a ydych chi’n ceisio ysbrydoliaeth ynghylch gyrfaoedd, gweithdai codio, delfrydau ymddwyn digidol neu gymorth i gynnal digwyddiadau STEM, rydym ar gael i helpu. E-bostiwch ni yn itsvc@dvla.gov.uk neu llenwch ein ffurflen fer a dywedwch wrthym pa fath o gymorth fyddai’n fuddiol i'ch dysgwyr.
Newyddion



