Sefydliadau Cyswllt

Ni fyddai Her Codio DVLA yn bosibl heb gefnogaeth ein sefydliadau cyswllt.

Bob blwyddyn, mae sefydliadau cyswllt o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector yn gweithio ochr yn ochr â DVLA i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddoniau digidol ledled Cymru. Drwy eu harbenigedd, eu syniadau a’u brwdfrydedd, mae’r sefydliadau cyswllt yn helpu i greu profiadau dysgu ystyrlon sy’n dangos i bobl ifanc sut y gellir defnyddio technoleg i ddatrys problemau go iawn.

Beth mae sefydliadau cyswllt yn eu gwneud?

Gall sefydliadau cyswllt gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau drwy gydol rhaglen Her Codio, gan gynnwys:

  • !
    Gosod thema her i ddysgwyr ei harchwilio.
  • !
    Cefnogi digwyddiadau lansio ac ymgysylltu ag ysgolion sy'n cymryd rhan.
  • !
    Hyrwyddo’r rhaglen drwy eu rhwydweithiau a’u sianeli.
  • !
    Mynychu rownd derfynol yr Her Codio a dathlu cyflawniadau’r dysgwyr.
  • !
    Darparu gwobrau, profiadau neu gyfleoedd i ysgolion sy’n cymryd rhan.
  • !
    Cyflwyno gweithgareddau, arddangosiadau neu brofiadau STEM ar y diwrnod.
  • !
    Rhannu mewnwelediadau am yrfaoedd a chyfleoedd yn eu sector.

Pam dod yn sefydliad cyswllt?

Rydym bob amser yn chwilio am sefydliadau sy'n rhannu ein hangerdd dros ddatblygu talent ddigidol y dyfodol. Fel sefydliad cyswllt Her Codio, byddwch yn cael y cyfle i:

Ysbrydoli pobl ifanc drwy heriau STEM sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd go iawn.

Codi ymwybyddiaeth o’ch sefydliad a’r gwaith rydych yn ei wneud.

Cysylltu ag ysgolion ac addysgwyr ledled Cymru.

Cefnogi datblygiad sgiliau digidol y dyfodol.

Cyfrannu at raglen STEM flaenllaw sydd wedi bod yn llwyddiannus ers dros ddegawd.

Diddordeb mewn dod yn sefydliad cyswllt Her Codio 2027?

P’un a allwch ddarparu thema ar gyfer her, mynychu digwyddiadau, cynnig gwobrau, cyflwyno gweithgareddau neu gefnogi’r rhaglen mewn ffyrdd eraill, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. 

Cwrdd â’n sefydliadau cyswllt 2027

Driver and Vehicle Licensing Agency Logo
Stem Learning
BCS
Swansea City Council
Buffoon Media