Ers degawd, mae rhaglen STEM DVLA wedi cynorthwyo dysgwyr ledled Cymru i gael gyrfa ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).
Mae ein llysgenhadon STEM, Mark Jones a Karen Pitt, wedi bod ar flaen y gad yn y blaengaredd gwirfoddol hwn dros y 10 mlynedd diwethaf. Cyn yr Her Codio flynyddol a gynhelir eleni, maent yn trafod sut maent wedi sicrhau bod y rhaglen yn parhau i ffynnu.
Pam wnaethoch chi benderfynu sefydlu’r rhaglen STEM ar gyfer gwirfoddolwyr?
Mark: Rwy’n wastad wedi credu’n gryf mewn annog pobl ifanc i ganfod gyrfa yn y byd digidol, ac rwy’n gwybod yn sgil profiad uniongyrchol pa mor bwysig yw pynciau STEM o ran meithrin sgiliau sylfaenol ein cenhedlaeth nesaf.
Cafodd rhaglen wirfoddoli STEM ei llunio ag un pwrpas - annog dysgu ar lawr gwlad a darparu sgiliau digidol mewn ffordd hwyliog a diddorol. Mae'r un pwrpas hwnnw wedi ffynnu ac wedi datblygu i fod yn nifer o fentrau cyffrous sydd wedi paratoi'r ffordd i bobl ifanc i’w galluogi i ganfod gyrfa yn y byd digidol.
Mae clybiau codio yn nodwedd sylweddol o'r rhaglen STEM – beth yw’r clybiau hynny?
Karen: Fel rhan o'r rhaglen, sefydlodd ein gwirfoddolwyr glybiau codio ar draws sawl ysgol leol. Mae'r clybiau'n darparu'r sgiliau digidol sydd eu hangen ar ddisgyblion ac athrawon i allu cychwyn eu taith ddigidol. Ers 2014, â chymorth gan wirfoddolwyr o bob rhan o DVLA, mae'r rhaglen wedi cynnal sawl clwb ar ôl ysgol, ac mae hefyd estyn allan at y gymuned i gynnig cyfleoedd i wella sgiliau digidol i ystod eang o bobl.
Mark: Wedi blwyddyn yn addysgu plant mewn clybiau ar ôl ysgol, lansiwyd y digwyddiad STEM cyntaf erioed a gynhaliwyd mewn ysgol, ac fe wnaeth hynny godi ymwybyddiaeth o ddysgu ym maes STEM ymhlith ysgolion cynradd ac uwchradd eraill, yn ogystal â'r gymuned fusnes ehangach. Rwy'n dal i gofio'r digwyddiad cyntaf; roedd pawb ohonom ni yn edrych ymlaen at y digwyddiad yn llawn cyffro.
Yn ystod y diwrnod, fe wnaethom arwain plant ysgol drwy weithgareddau codio rhyngweithiol, ac fe wnaeth hynny amlygu doniau’r plant, cynyddu eu hyder, ac annog busnesau i gychwyn eu rhaglenni STEM eu hunain. Dechreuodd deg clwb codio newydd yn y rhanbarth o ganlyniad uniongyrchol i'r digwyddiad codio cyntaf hwn.
Mae'n wych edrych yn ôl a gallu gwerthfawrogi faint o gynnydd rydym wedi’i wneud a faint o blant sydd wedi mwynhau'r clybiau codio a'r digwyddiadau cysylltiedig hefyd. Heb os, mae’n fraint bod wedi cael gweld eu sgiliau digidol yn datblygu. Bob blwyddyn, byddwn yn rhyfeddu ar beth all ein darpar-arloeswyr digidol ei gyflawni.
Karen: Ers y clwb codio cyntaf, mae rhaglen STEM DVLA yn parhau i ddatblygu ac aeddfedu, gan arwain at ddigwyddiadau a chyfleoedd newydd i helpu'r genhedlaeth nesaf.
Rydym hefyd wedi cynorthwyo â gwelliannau i addysg a’r cwricwlwm ledled Cymru, gan gynnwys rhoi offer TG diangen DVLA i ysgolion cynradd ac uwchradd fel rhan o'n Cynllun Cynhwysiant Digidol. Drwy ddefnyddio ein profiad fel cyflogwr digidol, ynghyd â'n hymrwymiad i gynorthwyo’r genhedlaeth nesaf, rydym wedi gallu dangos ein bod hi’n allweddol i blant ddatblygu sgiliau digidol pan fyddant yn ifanc iawn.
Bydd Her Codio flynyddol DVLA yn cael ei gynnal ym mis Rhagfyr – dywedwch ragor wrthym am hynny.
Karen: Lansiwyd yr Her Codio yn 2017, ac mae’n ddigwyddiad blynyddol erbyn hyn. Mae'n herio dysgwyr ledled Cymru i greu gemau gan ddefnyddio codio a chael cyfle i ennill gwobrau cyffrous i'w hysgol neu i’w coleg. Mae'n fraint cael cynorthwyo plant mewn ysgolion ledled Cymru, ac mae ein Her Codio flynyddol yn ffordd wych o ddathlu hynny.
Gan ddefnyddio codio a sgiliau digidol eraill, anogir plant i ddefnyddio eu dychymyg a'u sgiliau gwaith tîm i ddatblygu gemau cyffrous, creu fideo ac, os byddant yn cyrraedd y rownd derfynol, cyflwyno'r rhain ar y llwyfan ger bron cynulleidfa fyw. Mae'n rhywbeth llawer amgenach na gêm yn unig, a bydd llawer o’r creadigaethau yn mynd i'r afael â phroblemau'r byd go iawn megis cynaliadwyedd a chymorth dyngarol. Bob blwyddyn, byddaf yn rhyfeddu wrth weld safon yr enwebiadau a'r dyfalbarhad llwyr i wthio'r ffiniau gymaint ymhellach.
Mae'r digwyddiad, a gyflwynwyd yn flaenorol gan Siân Lloyd yng Nghanolfan Datblygu Richard Ley yn Abertawe, yn cynnig cyfleoedd i blant ysgol 7 i 16 oed i gyfranogi. Mae hefyd yn cynnwys Her Masnach mewn Codio, sy'n annog myfyrwyr 16 i 18 oed i gyflwyno tendr i ailgynllunio gwefan yr Her Codio. Mae'r broses yn cynnwys briffiau dylunio, manylebau, gofynion a matrics sgorio masnachol, gan gynnig ymdeimlad o fusnes a TG mewn sefyllfa go iawn i fyfyrwyr.
Pa ddigwyddiadau eraill ydych chi wedi cynorthwyo â hwy a beth sydd nesaf?
Karen: Ar wahân i’r Her Codio a'r clybiau codio, mae'r rhaglen wirfoddoli hefyd wedi cyfrannu’n sylweddol iawn at ddigwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal ledled Cymru. Mae bob amser yn heriol canfod amser i sicrhau bod popeth yn mynd rhagddo, ond drwy ymdrechion ein gwirfoddolwyr anhygoel, rydym yn llwyddo i wneud hynny.
Rydym wedi bod yn yr Eisteddfod yn ystod blynyddoedd blaenorol ac wedi mynd i Ŵyl Wyddoniaeth Abertawe yn rheolaidd, ac yno, byddwn yn annog rhieni a phlant i ddysgu popeth am godio a sgiliau digidol eraill, gyda'i gilydd.
Mark: Ar ôl degawd yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r genhedlaeth nesaf a chyn yr Her Codio flynyddol nesaf a gynhelir ar 3 Rhagfyr, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi sicrhau bod y daith hon yn bosibl.
Ni fyddai gwaddol y rhaglen STEM cystal ag y mae erbyn hyn oni bai am ein noddwyr a'n gwirfoddolwyr pwysig. Bob blwyddyn, byddant yn cyfranogi ac yn cynnig buddsoddiad mawr ei angen inni a dirnadaethau ynghylch eu sectorau amrywiol. I'n holl wirfoddolwyr a noddwyr, yn y gorffennol ac yn y presennol, diolch ichi am bopeth.
Heb os, nid dyma ddiwedd y daith, ac rydym yn gwybod bod angen gwneud llawer iawn rhagor i hyrwyddo’r byd digidol yn ein cymuned, ond drwy gydweithio, rydym yn gwneud gwahaniaeth. Rydym yn edrych ymlaen at yr Her Codio a gaiff ei chynnal yn fuan ac at gynorthwyo ein cymuned yn y dyfodol.