Amdanom Ni

Sefydlwyd Rhaglen STEM DVLA yn 2014 i gyflawni uchelgais syml: ysbrydoli pobl ifanc a'u helpu i ddarganfod y cyfleoedd sydd ar gael trwy gyfrwng gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Yn ysbrydoli doniau’r dyfodol ers 2014

Cychwynnodd y rhaglen fel blaengaredd bychan dan arweiniad gwirfoddolwyr ac mae wedi ehangu i fod yn rhaglen genedlaethol sy'n cynorthwyo ysgolion, myfyrwyr a chymunedau ledled Cymru trwy allgymorth, cystadlaethau, blaengareddau cynhwysiant digidol a gweithio trwy bartneriaeth.

Heddiw, mae'r rhaglen yn parhau i ddatblygu, gan helpu pobl ifanc i feithrin sgiliau, hyder a dyheadau a chynorthwyo i gyflawni uchelgeisiau ehangach yn ymwneud â gwerth cymdeithasol, cynhwysiant digidol a datblygu doniau’r dyfodol.

Ein Pwrpas

Credwn fod pob unigolyn ifanc yn haeddu'r cyfle i archwilio technoleg, datblygu sgiliau digidol a chanfod y posibiliadau o ran gyrfa sydd ar gael iddynt. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar:

Ysbrydoli

Cyflwyno pynciau STEM drwy weithgareddau cyffrous, cystadlaethau ac ymgysylltu.

Cynorthwyo

Cynnig adnoddau, canllawiau a mynediad at dechnoleg sy'n helpu i gael gwared ar rwystrau sy’n atal cyfranogi.

Datblygu

Helpu dysgwyr i feithrin y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sy’n ofynnol i sicrhau llwyddiant yn y dyfodol.

Cysylltu

Mae’n dod ag ysgolion, diwydiant, sefydliadau a gwirfoddolwyr ynghyd i greu effaith barhaol.

Y bobl sy'n gwireddu’r rhaglen

Mae llwyddiant y rhaglen yn bosibl diolch i rwydwaith o wirfoddolwyr brwdfrydig, Llysgenhadon STEM a phartneriaid.

Gyda'i gilydd, maent yn cynnig cymorth ymarferol, ysbrydoliaeth a dirnadaethau yn deillio o’r byd go iawn sy'n helpu i sicrhau bod STEM yn hygyrch ac yn ddiddorol i bobl ifanc.

Mae ein pobl yn cynnwys:

  • Gweithwyr proffesiynol yn y maes digidol
  • Prentisiaid
  • Graddedigion
  • Arbenigwyr technegol
  • Gwirfoddolwyr o bob cwr o DVLA

Pam mae STEM yn bwysig

Mae technoleg yn trawsnewid ein ffordd o fyw, gweithio a chyfathrebu. Bydd y sgiliau y mae pobl ifanc yn eu datblygu heddiw yn helpu i lunio gweithlu'r dyfodol.

Drwy helpu pobl ifanc i ymgysylltu â phynciau STEM yn gynnar, rydym yn buddsoddi yn noniau, cymunedau ac economi Cymru’r dyfodol.

Drwy weithgareddau STEM, rydym yn helpu i:

  • Feithrin hyder a chwilfrydedd
  • Datblygu sgiliau datrys problemau
  • Annog creadigrwydd
  • Ehangu ymwybyddiaeth o yrfaoedd yn y dyfodol
  • Cefnogi dysgu gydol oes

Gwaddol cynyddol i'r rhanbarth

Mae Rhaglen STEM DVLA wedi dod yn rhan bwysig o ymrwymiad DVLA i gynorthwyo cymunedau, hyrwyddo cynhwysiant digidol ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.

Drwy arloesi di-baid, gweithio trwy bartneriaethau ac ymrwymiad gwirfoddolwyr, byddwn yn parhau i ehangu cyfleoedd a helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial.