Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddoniau digidol

Mae Her Codio DVLA yn un o brif gystadlaethau digidol Cymru, yn dod ag ysgolion, myfyrwyr, addysgwyr a sefydliadau cysylltiedig ym maes diwydiant ynghyd i archwilio technoleg, creadigrwydd a datrys problemau.

Beth yw’r Her Codio?

Mae Her Codio DVLA yn gwahodd dysgwyr o bob cwr o Gymru i ddefnyddio technoleg, creadigrwydd a gwaith tîm i ddatrys heriau'r byd go iawn.

Bob blwyddyn, darperir themâu gan DVLA a'n sefydliadau cysylltiedig. Gwahoddir dysgwyr i ddewis thema a dylunio eu gemau cyfrifiadurol arloesol eu hunain gan ddefnyddio Scratch, iaith raglennu sy'n addas i ddechreuwyr.

Bydd y cynigion gorau yn ennill offer TG gwerth miloedd o bunnoedd i’w hysgol, coleg neu grŵp. 

Ers ei lansio, mae'r her wedi ysbrydoli miloedd o ddysgwyr ac mae'n dal yn cynorthwyo i ddatblygu doniau digidol y dyfodol ledled Cymru.

Pam cymryd rhan?

Ar gyfer myfyrwyr

Datblygu sgiliau digidol gwerthfawr wrth gael hwyl, gweithio fel rhan o dîm a chreu rhywbeth unigryw.

Datblygu sgiliau:

  • Codio
  • Datrys problemau
  • Creadigrwydd
  • Gwaith tîm
  • Cyflwyno

Ar gyfer ysgolion a cholegau

Cyfle gwych i wella dysgu oddi allan i'r ystafell ddosbarth a chynorthwyo i gyflawni’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Gallu elwa o:

  • Adnoddau a chanllawiau
  • Gweithdai
  • Sesiynau dan arweiniad partneriaid
  • Cyfleoedd i arddangos cyflawniadau
  • Cyfleoedd i ennill offer TG ar gyfer ysgol

Ar gyfer sefydliadau

Helpu i ysbrydoli doniau digidol y dyfodol a dangos ymrwymiad i addysg, arloesedd a dylanwad ar gymunedau.

Gall sefydliadau cyswllt:

  • Creu themâu ar gyfer heriau
  • Cefnogi gweithgarwch allgymorth
  • Mynychu gweithdai a digwyddiadau
  • Ysbrydoli dysgwyr 
  • Dod yn ddelfrydau ymddwyn

Her Codio DVLA 2027

Cynigir her 2027 i blant ac oedolion ifanc sydd rhwng 7 a 18 oed. Gall ysgolion, colegau neu grwpiau lleol gyflwyno cynigion o dan y categorïau canlynol: 

  • Myfyrwyr 7 - 11 oed
  • Myfyrwyr 11 - 16 oed
  • Myfyrwyr 16 - 18 oed

Dyddiad cau cyflwyno cynigion

Diwrnod(au)

:

Awr/Oriau

:

Munud(au)

:

Eiliad(au)

16 Medi 2026

Lansio'r gystadleuaeth

30 Medi 2026

Digwyddiad lansio ar-lein

30 Ebrill 2027

Dyddiad cau cyflwyno cynigion

7 Mai 2027

Panel beirniadu

6 Gorffennaf 2027

Rownd derfynol y gystadleuaeth

How to enter

1. Cwblhau’r ffurflen gais.

2. Derbyn eich e-bost cadarnhau, canllaw cystadleuaeth a dyddiadau allweddol.

3. Dewis un neu fwy o’r themâu her..

4. Dylunio ac adeiladau gêm yn seiliedig ar eich thema o ddewis.

5. Creu fideo byr sy’n arddangos eich gêm ac yn esbonio syniadau, penderfyniadau a thaith ddysgu eich tîm.

6. Dilyn y cyfarwyddiadau cyflwyno a ddarparwyd i’ch prif gyswllt i uwchlwytho eich gêm, eich fideo ac unrhyw ddeunyddiau ategol.

7. Cyflwyno eich cais terfynol erbyn dyddiad cau’r gystadleuaeth.

8. Derbyn cadarnhad bod eich cais wedi’i dderbyn.