Bob blwyddyn yn rownd derfynol Her Codio DVLA, bydd pobl yn gofyn yr un cwestiwn imi: "Pa gêm sy'n mynd i ennill?"
Mae'n gwestiwn teg. Mae'r Her Codio yn gystadleuaeth, a bydd ein teilyngwyr yn gweithio'n eithriadol o galed i gyrraedd y rownd derfynol. Ond nid pwy sy’n mynd â’r tlws adref yw’r testun cyffro pennaf imi. Yr hyn sy’n fy nghyffroi yw beth y gallant ei gyflawni drwy godio.
I mi, llwyddiant go iawn yr Her Codio yw'r hyder y bydd dysgwyr yn ei feithrin pan fyddant yn sylweddoli y gallant ddatrys problemau, gwireddu syniadau a chreu rhywbeth y gallant ymfalchïo ynddo.
Eleni, fe wnaeth 20 o ysgolion o bob cwr o Gymru gynnig 54 o gemau gan ddefnyddio Scratch, platfform rhaglennu sy'n addas i ddechreuwyr ac sy'n helpu pobl ifanc i ddysgu codio drwy greadigrwydd ac arbrofi.
Mwy na chodio
Bydd y gwaith yn dechrau ymhell cyn i'r disgyblion gyrraedd Canolfan Datblygu Richard Ley am y rownd derfynol. Drwy gydol y flwyddyn, bydd cyfranogwyr yn datblygu syniadau, yn profi atebion ac yn creu gemau yn seiliedig ar themâu a gynllunnir ar y cyd â’r sefydliadau sy’n bartneriaid inni. Mae'r themâu hyn yn annog disgyblion i ymgysylltu â heriau'r byd go iawn ac ystyried sut y gellir defnyddio technoleg i fynd i'r afael â hwy.
Wrth wylio'r teilyngwyr yn arddangos eu gemau, cefais fy syfrdanu gan eu dychymyg, eu huchelgais a'u penderfyniad. Roedd ansawdd y cynigion yn drawiadol, ond yr hyn a oedd yn digwydd y tu ôl i’r llenni a wnaeth yr argraff fwyaf.
Mae creu gêm yn rhywbeth llawer ehangach na dysgu sut i godio. Bydd disgyblion yn cydweithio, yn meddwl yn rhesymegol, yn dadansoddi problemau cymhleth ac yn canfod atebion creadigol. Byddant yn dysgu sut i brofi a gwella eu gwaith, goresgyn rhwystrau ac addasu eu syniadau pan aiff pethau o chwith.
I lawer o gyfranogwyr, gall rhoi cyflwyniad ger bron cynulleidfa fod yn brofiad sydd mor heriol â’r gwaith i ddatblygu’r gêm. Mae esbonio sut mae eu gêm yn gweithio, y penderfyniadau a wnaethant a'r problemau y maent wedi’u datrys yn eu helpu i fagu hyder a datblygu sgiliau cyfathrebu sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
Ysbrydoli cyfleoedd yn y dyfodol
Un o agweddau mwyaf gwerth chweil y diwrnod oedd cael gweld disgyblion yn rhyngweithio â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn y gwasanaethau brys ac ym meysydd technoleg a diwydiant.
Bydd y sgyrsiau hyn yn cynnig cyfle i gyfranogwyr ddysgu rhagor am y llwybrau gyrfa amrywiol a deall sut caiff sgiliau digidol eu defnyddio yn y gweithle. I rai, hwn fydd y tro cyntaf iddynt gael cyfle i siarad â phobl sy'n gweithio yn y meysydd hyn. Gall hynny eu galluogi i ddod i wybod am gyfleoedd nad ydynt erioed wedi’u hystyried yn flaenorol.
Ni fyddem yn gallu rhedeg y digwyddiad heb y cymorth a gawn gan athrawon, Llysgenhadon STEM a'r sefydliadau sy’n bartneriaid inni. Bydd eu hamser, eu harbenigedd a'u hanogaeth yn helpu i greu amgylchedd ble gall pobl ifanc ddysgu, archwilio a thyfu o ran hyder.
Cefnogwyd digwyddiad eleni gan sefydliadau gan gynnwys y Weinyddiaeth Amddiffyn, Byddin Prydain, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, STEM Cymru, Cyngor Abertawe, Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain, Heddlu De Cymru, Tarian ROCU, Diogelwch Ffyrdd Cymru, Wild Connect, Dillad Ysgol Am Ddim, Welsh Stars a Buffoon Media.
Edrych y tu hwnt i'r canlyniadau
Wrth gwrs, mae'r elfen gystadleuol yn dal yn rhan bwysig o'r diwrnod. Fe wnaeth ein henillwyr eleni, sef Ysgol Gynradd Parkland ac Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, greu gemau deniadol oedd yn amlwg iawn yn y rownd derfynol. Cafwyd perfformiadau rhagorol hefyd gan Ysgol Gynradd Blaenbaglan, Ysgol Eglwys Pentref Penarlâg, Ysgol Gyfun Tre-gŵyr ac Ysgol Rougemont.
Yr hyn y byddaf yn ei gofio fwyaf am y digwyddiad eleni yw gweld disgyblion yn esbonio eu syniadau’n falch, yn arddangos eu creadigrwydd a darganfod beth allant ei gyflawni.
Mae'r Her Codio yn addysgu codio, ond mae hefyd yn helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau cydweithio, cyfathrebu, creadigrwydd a datrys problemau. Beth bynnag fo’r yrfa y byddant yn ei dewis, bydd y sgiliau hynny'n aros gyda hwy ar hyd eu hoes.
Dyna pam mae'r Her Codio yn wastad wedi bod yn rhywbeth llawer amgenach na dim ond cystadleuaeth.















