Drwy ein rhaglen wirfoddol ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), mae DVLA yn cynorthwyo’r genhedlaeth nesaf drwy annog diddordeb mewn pynciau TG a STEM mewn cymunedau ac ysgolion ledled Cymru.

Digwyddiadau STEM

Rydym wedi profi blynyddoedd prysur iawn! Ers lansio ein rhaglen STEM,rydym wedi cynrychioli DVLA mewn llawer o ddigwyddiadau, gan gynnwys Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe a'r Eisteddfod Genedlaethol, ac wedi hyrwyddo dysgu ym maes STEM i blant ledled Cymru drwy ein Her Codio flynyddol.

Y llynedd, bu ein digwyddiad Her Codio yn llwyddiant ysgubol, ac fe wnaeth mwy na 300 o fyfyrwyr ac athrawon ddod i’n rownd derfynol fyw, ac fe wnaeth mwy fyth ymuno â’r digwyddiad drwy gyfrwng ffrydio byw. Y llynedd hefyd oedd y tro cyntaf inni gynnig yr her i golegau ac unedau chweched dosbarth, ac rwy'n falch o ddweud y byddwn yn gwneud hynny unwaith yn rhagor ym mis Rhagfyr! Ond cewch ragor am hynny yn ddiweddarach…

Yn gyntaf, dewch inni fwrw golwg ar y pethau rydym wedi bod yn eu gwneud yn ddiweddar, gan gynnwys diweddariad ynghylch ein Cynllun Cynhwysiant Digidol, a'r digwyddiadau rydym yn edrych ymlaen atynt yn y misoedd nesaf.

Rhoddi gliniaduron drwy'r Cynllun Cynhwysiant Digidol

Mae ein cynllun Cynhwysiant Digidol yn rhoddi offer TG wedi'i adnewyddu i ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru, gan gynnig adnoddau digidol pwysig i'r gymuned a lleihau gwastraff TG.

Hyd yn hyn, rwy'n falch o gael cyhoeddi ein bod wedi rhoi dros 500 o liniaduron i nifer o ysgolion yn Abertawe. Mae gennym ni 900 o liniaduron eraill a 3,000 o gyfrifiaduron bwrdd gwaith sy’n barod i’w rhoi i E-Cyclesy'n adnewyddu'r offer cyn ei roddi.

Rydym yn cydweithio’n agos ag E-Cycle i gyflawni targedau ein Hymrwymiadau ynghylch Gwyrddu’r Llywodraeth a'n Strategaeth Gwyrddu TGCh a Gwasanaethau Digidol y Llywodraeth,a’r nod yw lleihau cyfanswm y gwastraff TG sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi i 0% a chyflawni cynnydd blynyddol yng nghyfanswm yr offer TG sy'n cael ei ailddefnyddio a'i ailgylchu.

Ar 2 Mehefin, fe wnaethom ni roddi 20 o liniaduron i Gyngor Hil Cymru (RCC), sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, integreiddio a chyfiawnder yr hiliau yng Nghymru. Fe wnaeth RCC roddi’r gliniaduron i deuluoedd nad oedd ganddynt fynediad at TG at ddibenion yr ysgol na chyfleoedd dysgu. Mae’n hynod o werth chweil cael gweld pobl ifanc yn elwa o'r adnoddau gofynnol, ac rwy'n falch y bydd DVLA yn parhau i gefnogi ein cymunedau yn y ffordd hon.

Codio yng ngŵyl gerddoriaeth fwyaf Cymru

Ym mis Mai, ymunais â'n llysgenhadon STEM yng Ngŵyl In It Together, lle cynhaliwyd cystadlaethau codio i'r plant a ddaeth yr ŵyl.

Roedd yn wych gweld y plant yn cael cymaint o hwyl! Fe wnaethon ni gynnal cystadlaethau codio ddyddiol gan gynnig cyfle iddynt ddefnyddio meddalwedd SCRATCH i godio eu gêm eu hunain ar thema gŵyl, a chafodd yr enillwyr wobrau cŵl, gan gynnwys drôn a rhywfaint o grysau T!

Rydym am gyflwyno pobl ifanc i godio ac ysgogi eu diddordeb ym myd STEM, gan ddangos iddynt beth yw’r posibilrwydd o ran gyrfa ym maes technoleg ddigidol. Byddwn hefyd yn cynnal cystadlaethau codio yn yr Eisteddfod sydd i ddod ym mis Awst, lle bydd ein llysgenhadon STEM yn hyrwyddo Her Codio eleni ac yn annog myfyrwyr i gymryd rhan. Cofiwch ddod i’n gweld ni; cofiwch hefyd y gallech ennill rhywfaint o declynnau technolegol!