Gyrfaoedd Digidol
Ysbrydoli, denu, cadw a thyfu gweithwyr proffesiynol digidol y dyfodol a chreu cyfleoedd ar hyd y daith.
Yn DVLA, rydym yn credu bod technoleg yn newid bywydau. Fel un o sefydliadau digidol mwyaf y DU, rydym yn ymrwymo i ddatblygu'r sgiliau, y doniau a'r gallu sy’n ofynnol i allu cynnig gwasanaethau cyhoeddus rhagorol nawr ac yn y dyfodol.
Drwy ein Rhaglen STEM, gweithgareddau allgymorth, prentisiaethau, cyfleoedd datblygu a diwylliant dysgu, rydym yn helpu i greu cyflenwad cynaliadwy o ddoniau digidol y dyfodol.

Ein huchelgais

Mae ein huchelgais yn syml. Sicrhau y caiff pobl yr ysbrydoliaeth, y cymorth, y sgiliau a'r cyfleoedd datblygu sy’n ofynnol i ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus ym meysydd technoleg ddigidol, data a thechnoleg.
O ddisgyblion ysgol gynradd yn cyfranogi mewn gweithgareddau STEM i weithwyr proffesiynol profiadol sy'n datblygu arbenigedd, rydym yn dymuno creu amgylchedd ble gall pobl ffynnu.

Ysbrydoli
Creu chwilfrydedd ac ymwybyddiaeth drwy:
- Ymgysylltu â STEM
- Ymweliadau ag ysgolion
- Delfrydau ymddwyn digidol
- Digwyddiadau mewn cymunedau

Denu
Helpu pobl i archwilio gyrfaoedd drwy gyfrwng:
- Her Codio
- Prentisiaethau
- Gyrfaoedd cynnar
- Cyfleoedd i raddedigion

Cadw staff
Cynorthwyo ein pobl drwy gyfrwng:
- Mentora
- Llwybrau gyrfa
- Dysgu a datblygu
- Cymunedau proffesiynol

Tyfu
Datblygiad parhaus drwy gyfrwng:
- Dysgu technegol
- Achrediadau proffesiynol
- Fframweithiau sgiliau
- Cyfleoedd i ddatblygu arweinyddiaeth
- Arloesi a chydweithio
Materion digidol
Drwy ein Rhaglen STEM, rydym yn cydweithio ag ysgolion, myfyrwyr a chymunedau ledled Cymru, gan helpu pobl i ddeall y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael mewn gyrfaoedd digidol.
Bob dydd, mae miliynau o bobl yn dibynnu ar wasanaethau DVLA. Y tu ôl i'r gwasanaethau hynny, ceir arbenigwyr sy'n gweithio ar draws ystod eang o broffesiynau digidol.
Maent yn cynnwys:
- Peirianneg Meddalwedd
- Saernïaeth Dechnegol
- Seibrddiogelwch
- Rheoli Cynnyrch
- Dylunio Gwasanaethau
- Ymchwil Defnyddwyr
- Data a Dadansoddeg
- Cyflawni Technegol
- Seilwaith Digidol
- Technolegau Cwmwl
Ymuno â'r daith
Pa un ai a ydych chi'n fyfyriwr, yn addysgwr, yn wirfoddolwr neu'n ddarpar-gydweithiwr, mae lle i chi yn ein stori.

Myfyrwyr
Darganfod cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a hyder.

Ysgolion
Cyrchu, adnoddau a chyfleoedd i ymgysylltu.

Sefydliadau Cyswllt
Helpu i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.

Gyrfaoedd y dyfodol
Dysgu rhagor am gyfleoedd yn DVLA Digidol.
Mae'r Ganolfan Rhagoriaeth Ddigidol yn cyfleu ein hymrwymiad i gynorthwyo pobl ar hyd eu taith, o ddarganfod technoleg yn yr ystafell ddosbarth am y tro cyntaf hyd at ddatblygu gyrfaoedd digidol llwyddiannus a gwerth chweil.
Gyda'n gilydd, rydym yn helpu i ddatblygu'r doniau, y sgiliau a'r galluoedd a fydd yn llunio dyfodol gwasanaethau cyhoeddus digidol.
Newyddion



