Ymgysylltu ag Ysgolion

Mae Rhaglen STEM DVLA yn cydweithio ag ysgolion, colegau a sefydliadau addysgol ledled Cymru i helpu pobl ifanc i ddarganfod y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Cynorthwyo ysgolion, colegau a phrifysgolion

Rydym yn cynnig ystod hyblyg o gyfleoedd ymgysylltu sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion eich myfyrwyr, eich staff a chymuned ehangach yr ysgol.

Rydym yn cydweithio ag ysgolion ledled Cymru i:

  • Ysbrydoli dewisiadau gyrfa yn y dyfodol
  • Datblygu sgiliau digidol
  • Cefnogi dysgu am bynciau STEM
  • Codi dyheadau
  • Cynnig profiadau o'r byd go iawn

Gall ein gweithwyr proffesiynol digidol gynnig sesiynau deniadol sy'n ymdrin â:

  • Gyrfaoedd mewn gwasanaethau technoleg ddigidol
  • Diwrnod ym mywyd
  • Llwybrau gyrfa
  • Delfrydau ymddwyn a chyn-fyfyrwyr
  • Gweithdai codio a sgiliau digidol

Pa un ai a ydych chi’n ceisio ysbrydoliaeth ynghylch gyrfaoedd, gweithdai codio, delfrydau ymddwyn digidol neu gymorth i gynnal digwyddiadau STEM, rydym ar gael i helpu. E-bostiwch ni yn itsvc@dvla.gov.uk neu llenwch ein ffurflen fer a dywedwch wrthym pa fath o gymorth fyddai’n fuddiol i'ch dysgwyr.