Cynllun Cynhwysiant Digidol

Drwy ein Cynllun Cynhwysiant Digidol, mae DVLA yn cydweithio ag ysgolion, awdurdodau lleol, a sefydliadau cysylltiedig i helpu cymunedau Cymru i gyrchu’r dechnoleg a'r cymorth sy’n ofynnol i ffynnu mewn byd sy'n gynyddol ddigidol.

Beth yw cynhwysiant digidol?

Mae cynhwysiant digidol yn ymwneud â sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gyrchu technoleg ac elwa ohoni.

Yn anffodus, nid yw dyfeisiau, cysylltedd, sgiliau na hyder ar gael yn gyfartal i bawb.

Mae Cynllun Cynhwysiant Digidol DVLA yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau hyn drwy gynorthwyo sefydliadau a chymunedau drwy ailddefnyddio technoleg, gweithio trwy bartneriaeth ac ymgysylltu â chymunedau.

Cefnogi Siarter ‘Reuse for Good’ Llywodraeth y DU

Mae Cynllun Cynhwysiant Digidol DVLA yn cynorthwyo i adnewyddu ac ailddefnyddio technoleg y gellir ei hailddosbarthu i sefydliadau a chymunedau ledled Cymru.

Gan gydweithio â'n partneriaid, rydym yn helpu i sicrhau y bydd dyfeisiau'n dal i sicrhau effaith gadarnhaol ymhell ar ôl i’w defnydd gwreiddiol ddod i ben.

Ers llofnodi Siarter ‘Reuse for Good; Llywodraeth y DU, rydym wedi rhoddi 477 o ddyfeisiau. (Mawrth 2026)

Cynorthwyo’r genhedlaeth nesaf

Ysgolion

Cynnig mynediad at ddyfeisiau sy'n helpu myfyrwyr i ddysgu a datblygu sgiliau digidol.

Cymunedau

Helpu sefydliadau i gysylltu pobl â thechnoleg a chyfleoedd.

Cynaliadwyedd

Lleihau gwastraff ac ymestyn oes asedau technoleg gwerthfawr.

Doniau’r dyfodol

Creu cyfleoedd i ddysgwyr ymgysylltu â thechnoleg a datblygu sgiliau digidol.

Cynhwysiant digidol ar waith

"Rwyf wrth fy modd mai Cyngor Abertawe yw'r awdurdod lleol cyntaf i ddechrau cydweithio â DVLA ar y cynllun Cynhwysiant Digidol fel rhan o'n hymrwymiad i sicrhau y caiff ein holl ysgolion a disgyblion fynediad at ddyfeisiau digidol gartref ac yn yr ysgol."
Mae rhai disgyblion eisoes yn defnyddio'r offer a bydd llawer mwy yn elwa, felly dymunaf ddiolch i DVLA am ein cynnwys ni yn y blaengaredd cymunedol gwych hwn."

– Robert Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe

"Yn ogystal â mynd i’r afael â'r angen hanfodol hwn, bydd y cyfraniad hael hwn hefyd yn cryfhau ein cydweithredu â'r DVLA. Mae hyn yn gam cadarnhaol ymlaen a thestun cyffro i ni yw cael dathlu mwy o gyflawniadau a chyfleoedd i gydweithio â DVLA a chreu partneriaeth gryfach er budd y bobl ifanc amrywiol yn ein cymunedau."

– Ali Abdi, Lead Co-ordinator at National Minority Ethnic Youth Forum

Cymryd rhan

Mae'r cynllun hwn yn galluogi DVLA i roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned a chynnig offer pwysig i sicrhau y gall plant ac oedolion ifanc ledled Cymru ddatblygu sgiliau digidol at y dyfodol.

Os dymunwch gymryd rhan yn y cynllun, anfonwch e-bost i itsvc@dvla.gov.uk neu llenwch ein ffurflen ar-lein sydd ar gael isod.