{"id":3853,"date":"2023-07-25T09:00:43","date_gmt":"2023-07-25T08:00:43","guid":{"rendered":"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/?p=3853"},"modified":"2026-09-16T08:29:00","modified_gmt":"2026-09-16T07:29:00","slug":"drones-festivals-and-coding-competitions-an-update","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/cy\/2023\/07\/25\/drones-festivals-and-coding-competitions-an-update\/","title":{"rendered":"Dronau, gwyliau, a chystadlaethau codio - diweddariad ynghylch rhaglen STEM DVLA"},"content":{"rendered":"<div class=\"et_pb_section_0 et_pb_section et_section_regular et_flex_section\">\n<div class=\"et_pb_row_0 et_pb_row et_flex_row\">\n<div class=\"et_pb_column_0 et_pb_column et-last-child et_flex_column et_pb_css_mix_blend_mode_passthrough et_flex_column_24_24 et_flex_column_24_24_tablet et_flex_column_24_24_phone\">\n<div class=\"et_pb_text_0 et_pb_text et_pb_bg_layout_light et_pb_module et_flex_module\"><div class=\"et_pb_text_inner\"><p>Drwy ein rhaglen wirfoddol ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), mae DVLA yn cynorthwyo\u2019r genhedlaeth nesaf drwy annog diddordeb mewn pynciau TG a STEM mewn cymunedau ac ysgolion ledled Cymru.<\/p>\n<h2><strong>Digwyddiadau STEM<\/strong><\/h2>\n<p>Rydym wedi profi blynyddoedd prysur iawn! Ers lansio ein<span>\u00a0<\/span><a href=\"https:\/\/dvladigital.blog.gov.uk\/2021\/10\/28\/an-inside-look-into-dvlas-stem-programme\/\">rhaglen STEM,<\/a>rydym wedi cynrychioli DVLA mewn llawer o ddigwyddiadau, gan gynnwys G\u0175yl Wyddoniaeth Abertawe a'r Eisteddfod Genedlaethol, ac wedi hyrwyddo dysgu ym maes STEM i blant ledled Cymru drwy ein Her Codio flynyddol.<\/p>\n<p>Y llynedd, bu ein<span>\u00a0<\/span><a href=\"https:\/\/dvladigital.blog.gov.uk\/2022\/12\/21\/dvla-code-challenge-2022-celebrating-stem-skills-across-wales\/\">digwyddiad Her Codio<\/a><span>\u00a0<\/span>yn llwyddiant ysgubol, ac fe wnaeth mwy na 300 o fyfyrwyr ac athrawon ddod i\u2019n rownd derfynol fyw, ac fe wnaeth mwy fyth ymuno \u00e2\u2019r digwyddiad drwy gyfrwng ffrydio byw. Y llynedd hefyd oedd y tro cyntaf inni gynnig yr her i golegau ac unedau chweched dosbarth, ac rwy'n falch o ddweud y byddwn yn gwneud hynny unwaith yn rhagor ym mis Rhagfyr! Ond cewch ragor am hynny yn ddiweddarach\u2026<\/p>\n<p>Yn gyntaf, dewch inni fwrw golwg ar y pethau rydym wedi bod yn eu gwneud yn ddiweddar, gan gynnwys diweddariad ynghylch ein Cynllun Cynhwysiant Digidol, a'r digwyddiadau rydym yn edrych ymlaen atynt yn y misoedd nesaf.<\/p>\n<\/div><\/div>\n\n<div class=\"et_pb_image_0 et_pb_image et_pb_module et_flex_module\"><span class=\"et_pb_image_wrap\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/DSCF2804-scaled.jpg\" width=\"2560\" height=\"1707\" srcset=\"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/DSCF2804-scaled.jpg 2560w, https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/DSCF2804-300x200.jpg 300w, https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/DSCF2804-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/DSCF2804-768x512.jpg 768w, https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/DSCF2804-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/DSCF2804-2048x1365.jpg 2048w, https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/DSCF2804-18x12.jpg 18w, https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/DSCF2804-1568x1045.jpg 1568w\" sizes=\"(max-width: 2560px) 100vw, 2560px\" class=\"wp-image-3293\" \/><\/span><\/div>\n\n<div class=\"et_pb_text_1 et_pb_text et_pb_bg_layout_light et_pb_module et_flex_module\"><div class=\"et_pb_text_inner\"><h2><strong>Rhoddi gliniaduron drwy'r Cynllun Cynhwysiant Digidol<\/strong><\/h2>\n<p>Mae ein cynllun Cynhwysiant Digidol yn rhoddi offer TG wedi'i adnewyddu i ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru, gan gynnig adnoddau digidol pwysig i'r gymuned a lleihau gwastraff TG.<\/p>\n<p>Hyd yn hyn, rwy'n falch o gael cyhoeddi ein bod wedi rhoi dros 500 o liniaduron i nifer o ysgolion yn Abertawe. Mae gennym ni 900 o liniaduron eraill a 3,000 o gyfrifiaduron bwrdd gwaith sy\u2019n barod i\u2019w rhoi i<span>\u00a0<\/span><a href=\"https:\/\/www.ecyclegroup.co.uk\/\">E-Cycle<\/a>sy'n adnewyddu'r offer cyn ei roddi.<\/p>\n<p>Rydym yn cydweithio\u2019n agos ag E-Cycle i gyflawni targedau ein Hymrwymiadau ynghylch<span>\u00a0<\/span><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/greening-government-commitments-2021-to-2025\/greening-government-commitments-2021-to-2025#b-minimising-waste-and-promoting-resource-efficiency\">Gwyrddu\u2019r Llywodraeth<\/a><span>\u00a0<\/span>a'n<span>\u00a0<\/span><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/greening-government-ict-and-digital-services-strategy-2020-2025\/greening-government-ict-and-digital-services-strategy-2020-2025#sustainable-ict-and-digital-services-strategy-targets-for-2020-2025-policy-paper\">Strategaeth Gwyrddu TGCh a Gwasanaethau Digidol y Llywodraeth,<\/a>a\u2019r nod yw lleihau cyfanswm y gwastraff TG sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi i 0% a chyflawni cynnydd blynyddol yng nghyfanswm yr offer TG sy'n cael ei ailddefnyddio a'i ailgylchu.<\/p>\n<p>Ar 2 Mehefin, fe wnaethom ni roddi 20 o liniaduron i<span>\u00a0<\/span><a href=\"https:\/\/racecouncilcymru.org.uk\/\">Gyngor Hil Cymru (RCC),<\/a><span>\u00a0<\/span>sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, integreiddio a chyfiawnder yr hiliau yng Nghymru. Fe wnaeth RCC roddi\u2019r gliniaduron i deuluoedd nad oedd ganddynt fynediad at TG at ddibenion yr ysgol na chyfleoedd dysgu. Mae\u2019n hynod o werth chweil cael gweld pobl ifanc yn elwa o'r adnoddau gofynnol, ac rwy'n falch y bydd DVLA yn parhau i gefnogi ein cymunedau yn y ffordd hon.<\/p>\n<\/div><\/div>\n\n<div class=\"et_pb_image_1 et_pb_image et_pb_module et_flex_module\"><span class=\"et_pb_image_wrap\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Amy-Taaffe-Evans-Laptop-handover-with-Race-Council-Cymru.jpg\" title=\"Amy Taaffe Evans Laptop handover with Race Council Cymru\" width=\"1550\" height=\"1033\" srcset=\"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Amy-Taaffe-Evans-Laptop-handover-with-Race-Council-Cymru.jpg 1550w, https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Amy-Taaffe-Evans-Laptop-handover-with-Race-Council-Cymru-1280x853.jpg 1280w, https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Amy-Taaffe-Evans-Laptop-handover-with-Race-Council-Cymru-980x653.jpg 980w, https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/08\/Amy-Taaffe-Evans-Laptop-handover-with-Race-Council-Cymru-480x320.jpg 480w\" sizes=\"(min-width: 0px) and (max-width: 480px) 480px, (min-width: 481px) and (max-width: 980px) 980px, (min-width: 981px) and (max-width: 1280px) 1280px, (min-width: 1281px) 1550px, 100vw\" class=\"wp-image-3867\" \/><\/span><\/div>\n\n<div class=\"et_pb_text_2 et_pb_text et_pb_bg_layout_light et_pb_module et_flex_module\"><div class=\"et_pb_text_inner\"><h2><strong>Codio yng ng\u0175yl gerddoriaeth fwyaf Cymru<\/strong><\/h2>\n<p>Ym mis Mai, ymunais \u00e2'n llysgenhadon STEM yng Ng\u0175yl In It Together, lle cynhaliwyd cystadlaethau codio i'r plant a ddaeth yr \u0175yl.<\/p>\n<p>Roedd yn wych gweld y plant yn cael cymaint o hwyl! Fe wnaethon ni gynnal cystadlaethau codio ddyddiol gan gynnig cyfle iddynt ddefnyddio meddalwedd SCRATCH i godio eu g\u00eam eu hunain ar thema g\u0175yl, a chafodd yr enillwyr wobrau c\u0175l, gan gynnwys dr\u00f4n a rhywfaint o grysau T!<\/p>\n<p>Rydym am gyflwyno pobl ifanc i godio ac ysgogi eu diddordeb ym myd STEM, gan ddangos iddynt beth yw\u2019r posibilrwydd o ran gyrfa ym maes technoleg ddigidol. Byddwn hefyd yn cynnal cystadlaethau codio yn yr<span>\u00a0<\/span><a href=\"http:\/\/eisteddfod.wales\/\">Eisteddfod<\/a><span>\u00a0<\/span>sydd i ddod ym mis Awst, lle bydd ein llysgenhadon STEM yn hyrwyddo Her Codio eleni ac yn annog myfyrwyr i gymryd rhan. Cofiwch ddod i\u2019n gweld ni; cofiwch hefyd y gallech ennill rhywfaint o declynnau technolegol!<\/p>\n<\/div><\/div>\n\n<div class=\"et_pb_image_2 et_pb_image et_pb_module et_flex_module\"><span class=\"et_pb_image_wrap\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/IMG_2727-scaled.jpg\" title=\"Children at the Eisteddfod coding using Scratch\" width=\"2560\" height=\"1920\" srcset=\"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/IMG_2727-scaled.jpg 2560w, https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/IMG_2727-300x225.jpg 300w, https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/IMG_2727-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/IMG_2727-768x576.jpg 768w, https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/IMG_2727-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/IMG_2727-2048x1536.jpg 2048w, https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/IMG_2727-16x12.jpg 16w, https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/IMG_2727-1568x1176.jpg 1568w\" sizes=\"(max-width: 2560px) 100vw, 2560px\" class=\"wp-image-3301\" \/><\/span><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Drwy ein rhaglen wirfoddol ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), mae DVLA yn cynorthwyo\u2019r genhedlaeth nesaf drwy annog diddordeb mewn pynciau TG a STEM mewn cymunedau ac ysgolion ledled Cymru.<\/p>","protected":false},"author":11,"featured_media":3257,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[24,20],"class_list":["post-3853","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-digital-inclusion-news","tag-digital-inclusion","tag-stem"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3853","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3853"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3853\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3952,"href":"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3853\/revisions\/3952"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3257"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3853"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3853"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/stem.dvla.gov.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3853"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}